PECYN CODIO1

PEcyn Gwersi CA2 [£75]

CYNNWYS:

Cliciwch ar y penawdau isod er mwyn dysgu am gynnwys pecyn ‘Codio 1’

Cyflwyniad fideo yn arbennig i’r staff fydd yn arwain y gweithgareddau!

Yn y fideo yma, rwy’n dangos sut i rannu a defnyddio’r taflenni gwaith digidol sy’n cydfynd â phob gweithgaredd, ac yn son am y gweithgareddau – yr egwyddorion a’r sgiliau fydd yn cael eu datblygu wrth eu cwblhau.

Disgrifiad:

  • Cyflwyniad fideo i staff
  • 3x Gwers fideo i’r disgyblion
  • Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
  • PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.

Disgrifiad:

  • Cyflwyniad fideo i staff
  • 3x Gwers fideo i’r disgyblion
  • Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
  • PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.

Ar waelod y pecyn, mae dolen er mwyn agor dogfen PDF ble mae holl sgiliau a gweithgareddau’r pecyn wedi eu mapio ar draws fersiwn diweddaraf (Cwricwlwm i Gymru 2022) y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Wyt ti’n poeni am wersi codio?

Wedi diflasu ar arwain y disgyblion drwy gweithgareddau codio dibwrpas?

Dw i wedi bod yn union yr un sefyllfa.

Mae llwyth o adnoddau codio ar gael, ond does braidd dim ohono yn teimlo’n addas i’w ddefnyddio yn y dosbarth.

Pam?

Wel, mae llawer o’r adnoddau codio sydd ar gael yn dangos sut mae adeiladu côd, heb ganolbwyntio’n ddigonol ar y pam.

Os am ddysgu sgiliau anodd, mae plant (wel, pawb mewn gwirionedd!) am wybod bod y canlyniad terfynol yn un gwerth chweil – mae anelu am rywbeth penodol yn bwysig er mwyn adeiladu hyder.

Dyna pam wnes i greu pecyn gwersi CODIO1.

Mae’r pecyn yn cynnwys cyfres o wersi fideo sy’n tywys y disgyblion drwy 2x weithgaredd codio hwylus.

Mae’r disgyblion yn creu dwy gêm arcêd ac yn gwybod beth yw’r nod ar bob cam o’r ffordd.

Mae’r pecyn yn defnyddio j2code drwy Hwb, felly does dim angen unrhyw beth penodol – dim ond teclynnau sy’n gallu mynd ar y we.