Eryri
CYNNWYS:
Cliciwch ar y penawdau isod er mwyn dysgu am gynnwys pecyn ‘Eryri’
Cyflwyniad fideo yn arbennig i’r staff fydd yn arwain y gweithgareddau!
Yn y fideo yma, rwy’n dangos sut i rannu a defnyddio’r taflenni gwaith digidol sy’n cydfynd â phob gweithgaredd, ac yn son am y gweithgareddau – yr egwyddorion a’r sgiliau fydd yn cael eu datblygu wrth eu cwblhau.
Defnyddio j2data i ddatblygu sgiliau basdata sylfaenol ac uwch ar thema Eryri. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 3x Gwers fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Defnyddio Adobe Spark Post a Mapiau Bing i greu poster deudôn ar gyfer mynyddoedd yr Eryri. Mae’r disgyblion yn dysgu am gyfuno haenau, trosi testun yn rastr, plotio ar fap a llawer mwy. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 3x Gwers fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Bydd y plant yn defnyddio Google Docs, MS Word neu j2office i ysgrifennu llythyr sy’n mynegi barn ar y statws newydd mae UNESCO wedi rhoi i chwareli llechi ardal Eryri a thu hwnt. Bydd sgiliau prosesu geiriau pwysig yn cael eu datblygu, ynghyd â dysgu am osod llythyr ffurfiol yn gywir. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 4x Gwers fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Yn y weithgaredd olaf, mae’r disgyblion yn defnyddio Google Sites i greu gwefan ar ardal Eryri. Bydd y wefan yn cynnwys cynnyrch terfynol gweithgareddau 1-3, ond hefyd yn edrych ar fewnosod mapiau rhyngweithiol, fideos arlein a llawer mwy, gyda photensial i athrawon engangu ar y wefan ymhellach gyda rhestr o awgrymiadau ar gyfer tasgau ymestynnol posib. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 2x gwers fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Ar waelod y pecyn, mae dolen er mwyn agor dogfen PDF ble mae holl sgiliau a gweithgareddau’r pecyn wedi eu mapio ar draws fersiwn diweddaraf (Cwricwlwm i Gymru 2022) y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Gallwch weld mwy ar hyn yn y fideo isod.
SAMPL O WEITHGAREDD 1:
Dyma wers fideo rhad ac am ddim. Rhan gyntaf Gweithgaredd 1 yw hon, sef creu cronfa ddata, diffinio meysydd a dewis mathau data.
Er mai sampl yw'r fideo, gellir ei defnyddio fel gwers arunig gyda disgyblion. Lawrlwythwch dudalen gyntaf taflenni gwaith Gweithgaredd 1 fan hyn:
TROSOLWG
Sgiliau digidol, a mwy:
- Dylunio uwch
- Cyfathrebu digidol
- Creu Cronfa Ddata
- Trefnu, Chwilio a Holi Data
- Dylunio Gwe
- Llythrennedd
- Ysgrifennu Estynedig
- Gwerthuso a Dadansoddi.
Taflenni Gwaith:
Yn ogystal â’r gwersi fideo (dros 3 awr o gynnwys) , mae’r pecyn yn cynnwys taflenni gwaith sy’n gysylltiedig â’r tasgau.
Gallwch ddefnyddio’r taflenni yn ddigidol trwy j2pdf, Google Classroom a MS Teams neu eu hargraffu ar bapur i’r disgyblion o’r ffeil PDF.
Cymorth i Athrawon:
Mae’r pecyn yn cynnwys PDF o ganllawiau athro ar gyfer pob gweithgaredd. Mae’r rhain yn cynnwys atebion taflenni’r plant, a chanllawiau cam-wrth-gam ar gyfer y weithgaredd dan sylw.
Mae pob gweithgaredd yn dechrau gyda chyflwyniad fideo i athrawon yn unig, ble ‘dwi’n crynhoi’r dasg yn fyr ac yn son am unrhyw bwyntiau defnyddiol.
Mae dogfen fapio yn uwcholeuo’r agweddau o Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cwricwlwm i Gymru (2022) mae’r gweithgareddau yn eu hateb.