TYWYDD BRAF
CYNNWYS:
Cliciwch ar y penawdau isod er mwyn dysgu am gynnwys pecyn ‘Tywydd Braf’
Cyflwyniad fideo yn arbennig i’r staff fydd yn arwain y gweithgareddau!
Yn y fideo yma, rwy’n dangos sut i rannu a defnyddio’r taflenni gwaith digidol sy’n cydfynd â phob gweithgaredd, ac yn son am y gweithgareddau – y meddylfryd a’r sgiliau fydd yn cael eu datblygu wrth eu cwblhau.
Defnyddio Adobe Spark Post i ddatblygu sgiliau golygu delweddau uwch gyda thema hafaidd. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 2x Gwersi fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Defnyddio Google Sheets, MS Excel Online neu j2office i ddadansoddi a thrin set o ddata rhifyddol mewn taenlen. Mae’r disgyblion yn dysgu am fformiwlau, ffwythiannau, fformatio ac yn creu siartiau a thabl colyn. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 4x Gwersi fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Bydd y plant yn defnyddio j2code er mwyn creu dyluniad o’r Haul. Wrth wneud hyn, byddan nhw’n dysgu am onglau allanol polygonau, am gywasgu côd gan ddefnyddio dolennu, ac yn datblygu meddwl cyfrifiadurol wrth iddynt arbrofi. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 3x Gwersi fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Yn y weithgaredd olaf, mae’r disgyblion yn defnyddio Adobe Spark Page i greu portffolio arlein o waith yr uned. Yn ogystal, mae tasgau dadansoddi yn cael eu gosod er mwyn profi ac ymestyn dealltwriaeth y plant o’r gweithgareddau blaenorol. Mae’r weithgaredd yma yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo i staff
- 1x Gwers fideo i’r disgyblion
- Taflen waith (2 ochr A4) ar ffurf PDF, Google Classroom a MS Teams
- PDF ‘Canllawiau Athro’ gyda chamau’r weithgaredd ac atebion y daflen waith.
Ar waelod y pecyn, mae dolen er mwyn agor dogfen PDF ble mae holl sgiliau a gweithgareddau’r pecyn wedi eu mapio ar draws fersiwn diweddaraf (Cwricwlwm i Gymru 2022) y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Gallwch weld mwy ar hyn yn y fideo isod.
RHAGFLAS O WEITHGAREDD 1
Dyma ran gyntaf Gweithgaredd 1 yn unig, ond mae'n ddigon i'w wneud fel gwers arunig gyda'ch disgyblion.
MAPIO'R Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Mae'r fideo yma yn trafod yn gyflym sut mae sgiliau'r gweithgareddau yn cael eu mapio ar draws dogfen FfCD y cwricwlwm newydd.
TROSOLWG
Sgiliau digidol, a mwy:
- Dylunio uwch
- Dinasyddiaeth – hawlfraint
- Taenlenni
- Codio
- Rhifedd
- Creu Portffolio Digidol
- Gwerthuso a Dadansoddi.
Taflenni Gwaith:
Yn ogystal â’r gwersi fideo (dros 2½ awr o gynnwys) , mae’r pecyn yn cynnwys taflenni gwaith sy’n gysylltiedig â’r tasgau.
Gallwch ddefnyddio’r taflenni yn ddigidol trwy j2pdf, Google Classroom a MS Teams neu eu hargraffu ar bapur i’r disgyblion o’r ffeil PDF.
Cymorth i Athrawon:
Mae’r pecyn yn cynnwys PDF o ganllawiau athro ar gyfer pob gweithgaredd. Mae’r rhain yn cynnwys atebion taflenni’r plant, a chanllawiau cam-wrth-gam ar gyfer y weithgaredd dan sylw.
Mae pob gweithgaredd yn dechrau gyda chyflwyniad fideo i athrawon yn unig, ble ‘dwi’n crynhoi’r dasg yn fyr ac yn son am unrhyw bwyntiau defnyddiol.
Mae dogfen fapio yn uwcholeuo’r agweddau o’r Cwricwlwm i Gymru (2022) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol mae’r gweithgareddau yn eu hateb.